Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:

Y Pwyllgor Deisebau | 13 Rhagfyr 2016

Rhif y ddeiseb: P-05-728

Teitl y ddeiseb:  Diogelu Cyllid Teuluoedd yn Gyntaf

Geiriad y ddeiseb: Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ddiogelu cyllideb y rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf er mwyn amddiffyn y teuluoedd sydd fwyaf agored i niwed ledled Cymru, gan gynnwys yn ein hardal ni, Castell-nedd Port Talbot.

Caiff y rhaglen arloesi, Teuluoedd yn Gyntaf, ei hariannu gan Lywodraeth Cymru er mwyn cynorthwyo i ddatblygu systemau a chymorth amlasiantaeth effeithiol o fewn awdurdodau lleol, gyda phwyslais clir ar ymyrraeth gynnar ac atal niwed i deuluoedd, yn enwedig i'r rheini sy'n dlawd.

Ddiwedd mis Awst, ysgrifennodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau lythyr at sylw awdurdodau lleol ynghylch dyfodol Teuluoedd yn Gyntaf, sy'n dod i ben ym mis Mawrth 2017. Yn ei lythyr, amlinellodd y blaenoriaethau wrth fynd i'r afael â bylchau o ran darpariaeth gwasanaethau ar gyfer rhieni a phobl ifanc yn y dyfodol, gan gysylltu gwaith y rhaglen â'r dull o atal profiadau niweidiol i blant. Disgwylir i Ysgrifennydd y Cabinet wneud datganiad ffurfiol ar ddyfodol y rhaglen yn yr hydref, ac ni wyddys sut y bydd cyllid yn cael ei ddyrannu nes diwedd Rhagfyr 2016. Â'r rhaglen Cymunedau yn Gyntaf yn dod i ben ym mis Mawrth 2017, dyma gryfhau'r achos i'r rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf gael ei diogelu.

Yn y flwyddyn lawn gyntaf o weithredu'r rhaglen, defnyddiwyd y cynllun Teulu'n Flaenaf yng Nghastell-nedd Port Talbot i gynorthwyo bron i 100 o deuluoedd i wneud newidiadau cadarnhaol i'w bywydau a mynd i'r afael â materion cyn iddi fynd yn rhy hwyr, trwy ymyrraeth gynnar ac atal niwed. Mae'r Llywodraeth yn amcangyfrif y gall un teulu mewn trafferthion gostio oddeutu £75,000 y flwyddyn i'r trethdalwr, felly gellir cyfrifo gwerth o £3.32 am bob £1 a wariwyd gan arbed dros £7.3 miliwn i'r economi.

Cwtogodd Llywodraeth Cymru'r grant ar gyfer Teuluoedd yn Gyntaf yng Nghastell-nedd Port Talbot o £260,000 ar gyfer 2016-17, gan roi grant o £1,964,194. Defnyddiodd 2,586 o unigolion y gwasanaeth Teuluoedd yn Gyntaf yn ystod 2015-16 yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Beth yw Teuluoedd yn Gyntaf?

Sefydlwyd rhaglen Llywodraeth Cymru, Teuluoedd yn Gyntaf, yn 2010 â'r bwriad o wella dyluniad a darpariaeth y gwasanaethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cynnig i deuluoedd.

Amcanion Llywodraeth Cymru ar gyfer y rhaglen yw sicrhau bod:

¾     pobl o oedran gwaith mewn teuluoedd ar incwm isel yn ennill cyflog, ac yn datblygu o fewn y swydd

¾     plant, pobl ifanc a theuluoedd sydd naill ai'n dlawd neu mewn perygl o fod yn dlawd, yn cyflawni eu potensial

¾     plant, pobl ifanc a theuluoedd yn iach o ran eu hiechyd a'u lles

¾     teuluoedd yn hyderus, maethlon, cryf a saff.

Mae awdurdodau lleol yn datblygu Cynllun Gweithredu Teuluoedd yn Gyntaf sy'n egluro sut y byddant yn rhoi Teuluoedd yn Gyntaf ar waith yn lleol. Pan fo'r cynlluniau wedi cael eu cymeradwyo gan Lywodraeth Cymru, bydd comisiwn gwasanaethau'r awdurdodau lleol yn eu rhoi ar waith. Mae Teuluoedd yn Gyntaf yn ceisio datblygu systemau amlasiantaeth effeithiol er mwyn cefnogi teuluoedd, yn arbennig y rheini sy'n dlawd.[1] Mae hefyd yn rhoi pwyslais ar ymyrraeth gynnar ac atal niwed, ynghyd â thynnu sefydliadau at ei gilydd i gydweithio â'r holl deulu er mwyn atal problemau rhag gwaethygu nes eu bod yn argyfyngus. Un nodwedd allweddol o'r rhaglen yw ei bod wedi'i theilwra i weddu amgylchiadau teuluoedd unigol er mwyn gwneud ymyriadau'n fwy effeithiol.[2]

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Teuluoedd yn Gyntaf Llywodraeth Cymru ac yng Nghanllaw Teuluoedd yn Gyntaf.

 

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mewn llythyr yn ymateb i'r ddeiseb dan sylw, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant na allai ymrwymo ar hyn o bryd i ariannu Rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf ar ôl mis Mawrth 2018, gan fod Llywodraeth Cymru yn gweithio ar sail cyfnod cynllunio o un flwyddyn ar gyfer y gyllideb.'

Cyfeiriodd at ei ddatganiad diweddar ynghylch dyfodol y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf, gan ddweud:

Yn dilyn cyfnod pontio y flwyddyn nesaf, rwyf wedi penderfynu ailffocysu'r prosiectau strategol a gomisiynwyd gan Raglen Teuluoedd yn Gyntaf er mwyn sicrhau y gallwn fynd i'r afael â bylchau sydd wedi cael eu nodi ym meysydd cymorth i rieni a phobl ifanc, ac i wneud cysylltiadau clir rhwng gwaith y Rhaglen ac atal Profiadau Niweidiol Mewn Plentyndod.

Nid wyf wedi gwneud penderfyniad eto ynghylch dyfodol Cymunedau yn Gyntaf. Rydym wrthi’n ymgynghori ar hyn o bryd o ran y broses honno. Fy mwriad yw sicrhau ein bod yn mynd i'r afael â'r materion sy'n ymwneud â thlodi a bod ein rhaglenni i gyd yn gweithio'n dda, fel y gallwn ymyrryd yn y meysydd lle rydym am weld llwyddiant. Nid wyf wedi cael fy argyhoeddi eto mai Rhaglen Cymunedau yn Gyntaf yw'r unig raglen a all lwyddo i drechu tlodi, a dyma pam rwyf wedi gofyn i fy nhîm edrych ar y mater yn ofalus iawn. [Ein pwyslais ni]

 

Gan gyfeirio at y flwyddyn ariannol nesaf, dywedodd y byddai cyllideb Teuluoedd yn Gyntaf yn parhau ar yr un lefel a chyllideb 2016-17. Dywedodd hefyd ei fod 'yn y broses o benderfynu sut y bydd cyllid yn cael ei ddyrannu o fewn Cyllideb Teuluoedd yn Gyntaf, a [...] bydd dyraniadau dangosol ar gyfer y Rhaglen yn cael eu hanfon at bob Awdurdod Lleol yn unol â'n hamserlen arferol ar gyfer hysbysu Awdurdodau Lleol o'u dyraniadau dangosol ar gyfer y flwyddyn i ddod. Cyfrifoldeb pob Awdurdod Lleol fydd penderfynu ar y ffordd orau o ddyrannu ei grant ar gyfer y Rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf, gan mai’r Awdurdodau sydd yn y sefyllfa orau i sicrhau budd y teuluoedd y maent yn eu gwasanaethu.'

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi.   Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw'r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na'u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.    

 



[1]Llywodraeth Cymru, Monitor llesiant plant a phobl ifanc Cymru, Rhagfyr 2015

[2] Ibid